William Hughes letter, 25 September 1917

Show on map Back to item
Map key
William Hughes from Bow Street, Ceredigion, volunteered for the army in 1914 and served with the Royal Engineers. During the war he wrote a series of letters to a childhood friend, T I Rees (who was in the diplomatic service, based at the British embassy in Venezuela). In these letters, which were mostly written in Welsh, one can trace not only William’s physical movements, but also how his mood and attitude towards the war changed. (Although he has dated this letter 1915, the context shows that it was written in 1917).
Transcript:
Annwyl Gyfaill
Daeth dy lythr dyddiedig Awst 6ed i’m llaw rhyw wythnos yn ôl. Yr wyf wedi bod mor ffortunus â chyfarfod a Goronwy. A hynod o falch oeddwn pan gwrddais ag ef. Clywais fod ei gatrawd yn ymyl rhyw bum milltir oddi wrthyf ac ar fy union yr aethum i’w weld, ac fe’i gwelais amser ciniaw. Ni freuddwydiodd fy mod mor agos. Yr oedd hyn tua bythefnos yn ôl. Edrychai yn iawn - allan oeddynt am ychydig seibiant fel minnau ond gorfod i mi ymadael â’r gymdogaeth honno mewn tridiau ond fe aethum i’w weld bob dydd. Hawdd i ti ddeall ein hapusrwydd pe ond parablu ychydig o Gymraeg.
Dywedet dy fod yn awyddus am ddychwelyd i’r hen (wlad?) fel amaethwr. Wel yr wyf wedi penderfynu ar amaethyddiaeth os rhydd y Llywodraeth ychydig help fel y bwriadant.
Carwn yn fawr gael tŷ i mi fy hun ac ychydig dir mewn llecyn hyfryd yng Nghymru neu Lloegr. Os arbedir fi o’r gyflafan yma, bwriadaf wneud cartref i mi fy hyn a bywyd syml gwledig ydy fy nelfryd ar hyn o bryd, a gore po gyntaf. Os try pethau allan fel y bwriadaf af i mewn am ychydig dir gan fod amaethyddiaeth yn fater mor bwysig. Charwn i ddim dychwelyd i’r hen ddull o amaethu lle nad oedd cymaint â lle i weithiwr wneud un math o lwyddiant. Hyderaf y bydd i’r Llywodraeth gydnabod hyn yn fuan ac y bydd i bentrefi yr hen wlad flaguro o fechgyn a genethod prydferth.
Blwyddyn i heddiw roeddem yn ymladd ar y Somme, o ddiwrnod ofnadwy ydoedd yn fy hanes. Y tywydd yn hollol yr un fath, tarth ar wyneb y ddaear hyd amser ciniaw. Gwyn fyd na welswn derfyn arni nawr. Ychydig obaith sydd hyd y flwyddyn nesaf. Nid wyf wedi cael ond un darlun oddi wrthyt, sef un bach efe yn eistedd ar rywbeth. Gwelais un arall ym meddiant Goronwy. Carwn gael un eto os byddi cystal. Mae darluniau fel angylion allan yma. Byddwn yn edrych arnynt mewn culfach wrthyn ein hunain.
Bryd y gwelais anwyliaid ein calon pa rai sydd beunydd yn meddwl amdanom. Rhaid dweud fod llawer yn cwympo y dyddiau hyn na welir mohonynt mwy gan rieni annwyl.
Do, fe ddychwelais i’r wlad hon ychydig ddyddiau cyn i Bec a Hannah gael eu gwyliau. Carwn yn fawr eu gweld unwaith eto.
Mae Ivan Lewis yn Lloegr beunydd. Rhwydd hynt iddo.
Mae llawer o Gatrawdau Cymru wedi cwympo yn ddiweddar yn Flanders.
Ysgrifennaf eto mor gynted ag y medraf
Cofion fil
Will
Date: 25/09/1917

Owner

Gwynfor Hughes

Tags

click a tag to see all the other items that share it.
Uploaded by WelshVoices
Gethin Matthews
on 06/12/2011
Author rating: Authoritative 5/5
Is this Item useful?

Comments

Anon Y Mouse
Added 13/12/2012

Awaiting moderation

Anon Y Mouse
Added 10/12/2012

Awaiting moderation

Anon Y Mouse
Added 10/12/2012

Awaiting moderation

What does this mean to you?

 

Where else can this item be found?

Browse the tabs below to see the collections, trails and groups in which this item is being used.


Share This

Facebook

Twitter

Email


People's Collection Wales

Discover...

  • 46,550 Items
  • 1,174 Collections
  • 292 Stories
  • 3,276 Contributors

Contribute your own today and Share your story

Register to contribute